SL(5)377 – Rheoliadau Safonau a Labelu Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Cefndir a Phwrpas

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n gymwys yng Nghymru ym maes cyfansoddiad a labelu bwyd.

Mae’r Rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliad 6, i’w gwneud drwy arfer y pwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae rheoliad 6 wedi ei wneud o dan adran 16 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 i ddiwygio Rheoliadau Mêl (Cymru) 2015 i osod  y dull dadansoddi y mae’n rhaid i awdurdodau bwyd ei ddefnyddio i wirio cydymffurfedd â gofynion y Rheoliadau hynny

Gweithdrefn

Negyddol

Craffu Technegol

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Craffu ar rinweddau

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron y Cynulliad i’w sifftio yn unol â pharagraff  4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Cytunodd y Pwyllgor mai’r weithdrefn negyddol oedd y weithdrefn briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

5 Mawrth 2019